Heol Llysonnen,
Nant-y-ci,
Caerfyrddin,
SA33 5DR
www.sirgar.llyw.cymru/cartref/busnes/eiddor-cyngor/marchnad-da-byw-caerfyrddin-cyfle-prydles/#
Dylai’r rhai a allai fod â diddordeb mewn tendro i’r brydles i weithredu’r busnes da byw a’r gweithgareddau cysylltiedig, gyflwyno eu mynegiadau o ddiddordeb mewn derbyn mwy o fanylion a phecyn tendro unwaith y bydd ar gael.
Mae’r adeilad mart modern pwrpasol yn cynnwys derbynfa a swyddfa mart, dwy gylch ocsiwn gyda cawellau da byw cysylltiedig ar gyfer gwartheg, defaid a moch, ardal ocsiwn defaid, ardaloedd llwytho i’r ochr a’r cefn gyda pharcio lorïau a chyfleusterau golchi lawr, caffi a chyfleusterau cegin, bar, a deg uned fusnes i gwmnïau amaethyddol.
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos ei gynigion ar gyfer marchnad da byw ranbarthol flaengar sy’n edrych i’r dyfodol. Bydd hyn yn golygu gweithredu arwerthiannau da byw rheolaidd, a rheoli’r holl swyddogaethau ategol gan gynnwys is-osod consesiynau, swyddogaethau arlwyo ac unedau busnes; tra hefyd yn ceisio cynyddu i’r eithaf unrhyw gyfleoedd ehangach i greu menter hyfyw a chynaliadwy. Efallai y bydd partïon â diddordeb hefyd am ystyried cynnwys o fewn y brydles y Ganolfan Datblygu Busnes Gwledig y Cyngor sy’n cynnwys ystafell swyddfa a maes parcio cysylltiedig yn union gyferbyn â drysau mynediad blaen y farchnad. Mae’r cynllun sy’n dangos ffin y safle yn cynnwys y ddau adeilad.